Meddygfa Coed y Glyn
Lon Las
Llangefni
Ynys Mon LL77 7DU
01248 722229
Cartref
Canlyniadau
Gallwn dim ond siarad gyda’r claf eu hunain ynghylch a chanlyniadau profion oherwydd materion yn ymwneud â chyfrinachedd, oni bai fod caniatâd arbennig neu mae'r claf yn blentyn (a chi yw'r gwarcheidwad cyfreithiol).
Mae'r rhan fwyaf o ganlyniadau profion gwaed yn ôl o fewn 3 diwrnod gwaith, efallai y bydd rhai profion arbennig yn cymryd hyd at bythefnos. Mae canlyniadau PelydrX yn cymeryd 3 wythnos i'w ddychwelyd i ni. Hyd yn oed unwaith yn ôl yn y feddygfa, mae angen Meddyg i weld a rhoi sylwadau arnynt. Ffoniwch ar ôl 11:00yb am ganlyniadau, mae hyn yn caniatáu i ni ddelio â'r galwadau ffôn am apwyntiadau yn gynharach yn y bore. Dylech bob amser ffonio am eich canlyniadau ac NID dibynnu ar feddwl bod y canlyniad yn normal oherwydd nad ydych wedi clywed unrhyw beth.
Nodiadau Salwch (Med 3)
Ar gyfer yr wythnos gyntaf, byddwch angen llenwi tystysgrif hunan ardystio (SC2), y gellir ei gasglu ar ein derbynfa neu ar lein ar www.hmrc.gov.uk/forms/sc2.pdf. Os byddwch yn gofyn am nodyn salwch (med 3) cyn 7 diwrnod, mae tâl o £15 am y gwasanaeth. Os yw eich salwch yn para mwy na 7 diwrnod bydd angen i chi weld meddyg er mwyn cael nodyn (dim tâl). Efallai y byddwch yn cael nodyn salwch dros y ffôn os yw am gyfnod parhaus o absenoldeb a'ch bod yn hysbys i'r meddyg.
Gweler www.gov.uk/taking-sick-leave am gyngor.